Ar ddiwedd mis Ionawr eleni, ymunwyd â ni gan dîm a oedd yn ffilmio Coast and Country i ITV. Daeth Sean Fletcher (cyflwynydd) James Harris (dyn camera a drôn) a Lynn Courtney (cynhyrchydd) i gwrdd â ni a rhai o’n gwirfoddolwyr yn Llanfair Clydogau ar gyfer taith fer i mewn i goedwig Clywedog. Ar ôl ambell sgwrs ddiddorol am y prosiect, fe wnaethon ni ddangos iddyn nhw sut rydyn ni’n gwneud arolwg o wiwerod coch. Ymhen fawr o dro, roedd Sean yn cael hyd i gonau wedi’u cnoi gan wiwerod ble bynnag roedden ni’n mynd!

Y tîm Coast and Country gyda’r tîm gwiwerod Coch a rhai o’n gwirfoddolwyr
Darlledwyd yr eitem ar 1 Ebrill mewn rhaglen a oedd hefyd yn cynnwys eitemau am Ymddiriedolaeth Ceffylau a Merlod Lluest a hen dwneli o’r Ail Ryfel Byd.
Os hoffech weld yr eitem, mae ar gael yma:
https://www.itv.com/Walesprogrammes/articles/coast-and-country-series-10-episode-4