Mae Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru yn cymryd camau i helpu’r wiwer goch i oroesi yng nghanolbarth Cymru, i wneud yn siŵr fod y rhywogaeth eiconig hon yn rhan o’n dyfodol.
Mae’r wiwer goch nid yn unig yn cyfrannu at fioamrywiaeth canolbarth Cymru, ond gall yr anifail hardd a hoffus hwn chwarae rhan hefyd yn yr economi wledig trwy ddenu mwy o ymwelwyr i ganolbarth Cymru, a helpu i hybu eco-dwristiaeth.
Gallwch ymuno â’n cefnogwyr presennol i ddod yn rhan o’r prosiect cadwraeth pwysig hwn.
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wneud yn siŵr fod gennym ddigon o arian i gyrraedd ein nod o leihau poblogaeth y wiwer lwyd yn sylweddol ym Mhrif Barth Gwarchod Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru a chreu’r amodau cywir ar gyfer ffyniant ein gwiwerod coch.

Gwiwer Goch gan Margaret Holland
Cyfrannwch heddiw i’n helpu i ddiogelu aelod eiconig o fywyd gwyllt brodorol Cymru. Os hoffech ystyried rhoi rhodd mwy o faint, byddwch cystal â chysylltu ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn ein swyddfa yn Nhon-du ar 01656 724100 a dweud yr hoffech gyfrannu at y gwaith o ddiogelu’r wiwer goch.
Mabwysiadwch Wiwer
Gallwch hefyd fabwysiadu gwiwer goch gydag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru; mae pecyn mabwysiadu yn anrheg wych ac ystyrlon i deulu, ffrindiau neu anwyliaid.
Bydd eich pecyn mabwysiadu yn cynnwys:
Llythyr rhagarweiniol
Tystysgrif fabwysiadu bersonol
Taflen ffeithiau
Tegan meddal
Unwaith y flwyddyn (fel arfer yn yr hydref) byddwch yn derbyn adroddiad am yr anifail a fabwysiadwyd.
Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth – cefnogwch ni heddiw, os gwelwch yn dda.