Gallwch wirfoddoli i helpu i warchod gwiwerod coch yng nghanolbarth Cymru mewn nifer o ffyrdd syml:
Cydlynu’r Cynllun Benthyca Trapiau yn lleol:
A ydych chi’n barod i storio cyfarpar trapio a’i ddosbarthu i bobl yn eich ardal leol?
Mae hyn yn hollbwysig er mwyn llwyddiant ein Cynllun Benthyca Trapiau.
Mae’r gwaith yn cynnwys cadw’r cyfarpar yn ddiogel, cadw cofnod o’r offer ar fenthyg, gan ddangos aelodau newydd sut i ddefnyddio’r cyfarpar, glanhau’r trapiau sy’n cael eu dychwelyd a chasglu cofnodion trapio oddi wrth Aelodau’r Cynllun.
Monitro Gorsafoedd Bwyda:
I rai pobl lwcus sydd yn byw yng nghanol y prif barth, efallai y bydd cyfle i’r prosiect sefydlu gorsaf fwydo i wiwerod yn agos i’ch cartref er mwyn i chi allu monitro â chamera pell-reolaeth.
Rhaid bod cynefinoedd addas yn agos ac yn hygyrch i’r lle rydych yn byw, a rhaid i chi hefyd fod yn barod i drapio a difa unrhyw wiwerod llwyd a allai ymweld â gorsaf fwydo lle mae’r cochion hefyd yn bresennol. Os ydych chi’n credu y gallech chi wneud hyn ac os oes gennych ddiddordeb mewn monitro gorsaf fwydo, cysylltwch â ni.
Arolygwyr:
Weithiau rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu yn y gwanwyn gydag arolygon wedi’u targedu er mwyn cael hyd i wiwerod mewn ardaloedd lle mae’n bwysig i ni gael gwybodaeth gyfredol. Er enghraifft, efallai y byddwn eisiau canfod a yw gwiwerod coch wedi ail-gytrefu ardaloedd lle bu’r prosiect yn rheoli gwiwerod llwyd.
Mae gwybodaeth o arolygon o’r fath yn hanfodol ar gyfer creu cofnod o lwyddiant y prosiect.
Gallai canlyniad llwyddiannus ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan yn y prosiect a’u hannog i barhau â’u gweithgareddau i ddiogelu’r wiwer goch yn yr hirdymor. Gyda gwybodaeth gywir, gallwn hefyd dargedu ein gwaith yn well a sicrhau ein bod yn defnyddio ein hadnoddau mewn ardaloedd lle mae’r angen mwyaf am gymorth i‘r wiwer goch.
Hyrwyddo:
Gallwch helpu’r prosiect trwy arddangos posteri am ddigwyddiadau, cyfieithu deunyddiau cyhoeddusrwydd a lledaenu gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod.
I’r rheini ohonoch sy’n mwynhau’r byd cyhoeddus, gallech helpu i drefnu digwyddiadau, annerch cyfarfodydd, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cadwraeth yn y gymuned yn gyffredinol.
Cysylltwch â’r Swyddog Prosiect Gwiwerod Coch gyda cheisiadau a chynigion gwirfoddoli, neu llenwch ein holiadur ar-lein i ddweud wrthym amdanoch chi eich hun a’r hyn y gallwch ei gynnig.