Sefydlwyd Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru yn 2002.
Nod y Bartneriaeth yw ehangu a gwarchod y boblogaeth unigryw o wiwerod coch yng Nghanolbarth Cymru, sef uno ddim ond tair poblogaeth sylweddol yng Nghymru gyfan.
Bu’r Bartneriaeth wrthi’n casglu gwybodaeth ddibynadwy am boblogaeth y gwiwerod coch yng Nghanolbarth Cymru er mwyn deall sut yn union mae mynd ati i’w gwarchod.
Y partneriaid yw:
Mae’r ymdrechion cadwraeth yn cynnwys:
- sefydlu parth clustogi o amgylch cadarnleoedd y wiwer goch a rheoli’r gwiwerod llwyd
- monitro poblogaeth y wiwer goch drwy’r amser
- cynghori tirfeddianwyr ynghylch gwella cynefinoedd ar gyfer gwiwerod coch
- creu diddordeb ymhlith ysgolion a chymunedau lleol
- cynllunio coedwigoedd i’w gwneud mor werthfawr â phosibl ar gyfer gwiwerod coch.
Y wiwer lwyd yw un o’r prif fygythiadau i oroesiad y wiwer goch yn y dyfodol, ac ni ellir lliniaru’r bygythiad ond wrth gymryd eich grwp lleol.