Ym mis Chwefror, cafodd y tîm gyfle anhygoel i ymweld â’r Ynys Ddu yn yr Alban i gwrdd â thîm ymchwil o coleg Inferness (Brifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd) dan arweiniad Louise de Raad. Mae’r tîm yn defnyddio coleri radio i ddilyn gwiwerod ac i ymchwilio i’r modd mae gwiwerod coch yr Alban yn ymateb i gwympo coetiroedd yn llwyr. Hyn yw’r ffordd fwyaf dinistriol – ond y ffordd gyflymaf – o gynaeafu pren, pan fo pob coeden yn cael ei chwympo. Yn amlwg, mae hyn yn achosi newid enfawr yn ecosystemau’r holl fywyd gwyllt yn y fan a’r lle. Mae’r ymchwil yn cael ei gynnal mewn cydweithrediad agos â Forestry Land Scotland sy’n edrych i wella eu harfer ymhellach wrth optimeiddio cynaeafu coedwigoedd ar gyfer cadwraeth gwiwerod coch. Edrychwn ymlaen at ganfyddiadau’r astudiaeth!
Aethom i’r Alban yn syth ar ôl Cynhadledd Gwiwerod Coch Unedig, a oedd yn golygu rhai dyddiau hir iawn i Ben a Phil. Fe gyrhaeddon ni Inverness yn hwyr ar y dydd Llun, ar ôl taith yrru anodd, gyda llifogydd enfawr yng Nghymru, ac eira ar fynyddoedd yr Alban.

Jamie and Dr Louise De Raad preparing to process a red squirrel caught in the tree mounted trap (covered with a towel)
Fe dreulion ni ddydd Mawrth a dydd Mercher gyda Louise, Andy a Jamie yn archwilio trapiau mewn coetiroedd ar yr Ynys Ddu. Roeddem yn hynod lwcus i ddal pum gwiwer goch yn ystod y ddau ddiwrnod ac roeddem yn gallu arsylwi a dysgu gan y tîm a oedd yn ymdrin â phob gwiwer. Yna treulion ni ychydig oriau yn dilyn rhai o’r gwiwerod oedd yn gwisgo coleri radio. Rwyf i (Sarah) wedi gwneud cryn dipyn o’r gwaith hwn yn y gorffennol gyda Phrosiect Adfer Beleod Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Vincent (VWT). Roedd y cyfle i o ddilyn gwiwerod trwy gyfrwng radio yn hynod addysgiadol, o ran gwahanol offer a thechnoleg, a’r holl wahaniaethau ymarferol. Roedd hynny’n golygu‘n bennaf: llai o yrru, mwy o gerdded a’r un faint o sŵn gwyn!

Squirrel chewed bracket fungi we found in one of the prospective sites. We don’t see this often in Wales!
Fel rhan o’n prosiect “Cochion Iach” ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio cynnal ein hastudiaeth ein hunain o ddilyn gwiwerod coch Cymru drwy gyfrwng radio. Roedd hyn i fod i ddigwydd yn ddiweddarach eleni, ond dydyn ni ddim yn siŵr eto sut y gallai’r pandemig coronafeirws effeithio ar hyn. Hyd yn oed os bydd rhaid i ni ohirio ein hastudiaeth am ychydig, rydym yn hynod ddiolchgar i Louise, Andy a Jamie am ein gwahodd i’r Alban.
Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i dywydd yr Alban am roi ychydig o ddyddiau anhygoel i ni.