Yn ystod tri chyfnod arolwg, trapiwyd nifer o wiwerod coch mewn rhaglen drapio wedi’i thargedu o dan drwydded. Datgelodd dadansoddiad DNA fod yna bum haploteip DNA mitocondriaidd gwahanol yn y boblogaeth yng nghanolbarth Cymru.<\/p>\n
Mae haploteip yn farciwr genetig a all ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol am eneteg a thras poblogaeth o rywogaeth benodol.<\/p>\n
O boblogaeth gwiwerod coch Canolbarth Cymru, roedd tri o’r pum haploteip wedi eu cofnodi o’r blaen yng Nghymru; fodd bynnag, hwn oedd y tro cyntaf i\u2019w presenoldeb gael ei gofnodi mewn un lleoliad.<\/p>\n
Ymddengys fod tri o\u2019r haploteipiau yn unigryw i boblogaeth y Canolbarth. Yn 2013, canfuwyd haploteip newydd ym mhoblogaeth y Canolbarth, yn ystod astudiaeth o dan brosiect MISE<\/a>.<\/p>\n Credir bod yr haploteip hwn wedi deillio o drawsleoliadau ym Mhrydain yn y gorffennol, o ystyried y cafwyd hyd iddo mewn sbesimen yn yr Amgueddfa Brydeinig. Ar hyn o bryd, dyna yw\u2019r haploteip mwyaf cyffredin mewn gwiwerod coch yn Iwerddon; fodd bynnag, ni chafodd ei gofnodi o’r blaen mewn unrhyw boblogaeth gwiwerod coch sydd wedi goroesi ym Mhrydain.<\/p>\n Dangosodd canlyniadau dadansoddiad genetig fod gan y boblogaeth o wiwerod coch yng Nghanolbarth Cymru amrywiad genetig mawr. Mae i hyn oblygiadau i gadwraeth y boblogaeth leol a gwarchodaeth gwiwerod coch yng Nghymru yn gyffredinol. Os oes amrywiad genetig mawr mewn poblogaeth, mae ymdrechion cadwraeth yn fwy tebygol o lwyddo.<\/p>\n <\/p><\/div>\n Gwiwer goch mewn ffr\u00e2m drafod gan Anna Hobbs<\/p><\/div><\/p>\n