Mae\u2019r niferoedd yn y DG wedi gostwng o oddeutu 3.5 miliwn i boblogaeth o oddeutu 120,000, yn \u00f4l yr amcangyfrif diweddaraf.<\/p>\n
Yng Nghymru, dim ond tair poblogaeth o wiwerod coch sydd ar \u00f4l: ar Ynys M\u00f4n, o amgylch Coedwig Tywi yn y Canolbarth ac yng Nghoedwig Clocaenog yn y Gogledd-ddwyrain.<\/p>\n
Yn 2009, cafodd Cynllun Cadwraeth ar gyfer Gwiwerod Coch yng Nghymru <\/a>ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.<\/p>\n Roedd y cynllun yn nodi ardal Coedwig Tywi yn y Canolbarth fel un o dri safle lle dylid cymryd camau strategol ar frys ar gyfer cadwraeth y wiwer goch. <\/p><\/div> Map o ddosbarthiad y wiwer goch yng Nghymru<\/p><\/div>\n <\/p><\/div> <\/div> <\/p>\n Mae gostyngiad sylweddol yn y coed llydanddail, coetiroedd yn cael eu darnio fwyfwy a gorbori, yn arwain at lai o aildyfiant, ac mae hyn i gyd wedi cyfrannu at ddirywiad y gwiwerod coch yn y 19eg ganrif.<\/p>\n Fodd bynnag, nid yw hyn yn egluro’n llawn pam mae niferoedd y gwiwer coch yn y DG wedi gostwng. Yn eironig, mae\u2019r coed conifferaidd a blannwyd yn gymharol ddiweddar yn darparu rhywfaint o fwyd newydd addas i\u2019r gwiwerod coch a gall y coed hyn hefyd gynorthwyo \u00e2\u2019u cadwraeth yn y dyfodol. <\/p><\/div> Ymyl Coedwig Tywi<\/p><\/div>\n <\/p><\/div> <\/div><\/p><\/div> <\/p>\n Mae gwiwerod coch o dan bwysau cynyddol gan gwiwerod llwyd anfrodorol. Cafodd y wiwer lwyd ei chyflwyno i’r DG yn y 1870au. Ers cyflwyno ychydig iawn o anifeiliaid, mae niferoedd y wiwer lwyd wedi cynyddu i dros 3 miliwn.<\/p>\n Mae gwiwerod llwyd wedi disodli poblogaethau’r wiwer goch ledled llawer o’u hen gynefinoedd; gall y wiwer lwyd gytrefu 6 milltir o goetir y flwyddyn, a bydd y wiwer goch fel arfer yn diflannu odi yno wedyn o fewn 15 mlynedd. <\/p><\/div> Gwiwer lwyd ar foncyff gan Gillian Day<\/p><\/div><\/p>\n <\/p><\/div> <\/div>\n Mewn gwirionedd, nid yw’r gwiwerod llwyd yn gyrru\u2019r cochion o\u2019u cynefin nac yn ymosod arnynt; fodd bynnag, mae presenoldeb gwiwerod llwyd yn aml yn golygu nad yw\u2019r wiwer goch yn cael digon i’w fwyta. Yn wahanol i\u2019r cochion, mae\u2019r llwydion, sy\u2019n dod yn wreiddiol o goetiroedd hicori a deri yn nwyrain Gogledd America yn gallu treulio mes ac ymdopi\u2019n well \u00e2’r crynodiadau uchel o dannin gwenwynig sydd ynddynt. Mewn coetiroedd collddail, felly, y llwydion sy\u2019n rheoli\u2019r adnoddau bwyd.<\/p>\n Am nad yw\u2019n gallu cael digon i\u2019w fwyta, bydd y wiwer goch yn colli pwysau, ac mae\u2019n llai tebygol o oroesi\u2019r gaeaf a bridio\u2019n llwyddiannus. Mae\u2019r wiwer lwyd yn fwy o lawer na\u2019r wiwer goch. Am ei bod yn drymach, mae\u2019n gallu storio tair neu bedair gwaith yn fwy o fraster na\u2019r wiwer goch, ac felly mae ganddi well cyfle i oroesi\u2019r gaeaf.<\/p>\n Hefyd, mae\u2019r wiwer lwyd yn cynhyrchu mwy o wiwerod bach na\u2019r wiwer goch. Yn ogystal, mae un hectar yn cynnal mwy o lwydion, sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o oroesi. Er taw\u2019r wiwer lwyd sydd \u00e2’r fantais dros y wiwer goch mewn coetiroedd llydanddail, nid felly yw\u2019r sefyllfa mewn coedwigoedd conifferaidd.<\/p>\n Yn y coedwigoedd hyn, gall y wiwer goch fwyta hadau bach y coed conifferaidd, nad ydynt yn darparu digon o faeth i\u2019r wiwer lwyd ac o\u2019r herwydd mae ganddi well cyfle i oroesi. Mae\u2019n well gan y cochion rywogaethau dethol yn y coedwigoedd conifferaidd: mae sbriws Norwy, pinwydd yr Alban a phinwydd camfrig yn ffynonellau bwyd defnyddiol i wiwerod coch, ond nid oes llawer ohonynt ar gael yn y planhigfeydd Sitca ac nid ydynt yn cynhyrchu conau bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu er bod ardal y cynefin conwydd yng nghanolbarth Cymru yn fawr, dim ond arwynebedd bach iawn sy\u2019n cynnig yr amodau gorau posibl i\u2019r cochion.<\/p>\n
<\/a>Dinistrio a darnio cynefinoedd<\/h2>\n

Cystadleuaeth gan wiwerod llwyd<\/h2>\n
